|
> amdanom ni
Sefydlwyd 4ward Development gan Janet Hay a Denise Morris ym mis Mawrth 2009. Mae'n gwmni ifanc gyda phrofiad helaeth y tu cefn iddo. Cyrhaeddodd y ddwy’r brig yn eu galwedigaethau unigol cyn penderfynnu cyfuno dros 50 mlynedd o brofiad mewn amrywiaeth eang o sectorau, a mynd ar eu liwt ei hunain, gan ddod â'u holl gleientiaid blaenorol gyda nhw.
Ers cael ei sefydlu mae'r cwmni wedi datblygu rhestr drawiadol o gleientiaid, enillodd statws Buddsoddwr mewn Pobl yn fuan iawn ac mae’n ganolfan gydnabyddedig i’r Sefydliad Arwain a Rheoli (ILM).
Rydym yn ymfalchïo yn y bartneriaeth a sefydlwn gyda’n cleientiaid lle gallant ymddiried ynom ni, a lle gallwn ninnau ddod i adnabod y sefydliadau'n drylwyr fel bod modd i ni eu helpu i gyflawni eu potensial a gwneud y mwyaf o'u pobl. P’un ai trwy ddatblygu gweithlu sy’n medru addasu gyda phob her newydd, neu trwy ddileu poen meddwl materion HR, mae cleientiaid yn gwerthfawrogi'r hyblygrwydd a'r arbenigedd yr ydym yn gynnig ac felly rydym yn creu cysylltiadau hir-dymor sydd â buddion amlwg i'n cleientiaid.
|
|
 |
> cwrdd â'r tîm
• Janet Hay • Denise Morris • Stephen Davis • Nesta Young • Izabella Prendergast
|
 |
|