wardlogoheader
item1a1c
item1a1c

Diwrnod Rhyngwladol y Merched - 08-03-10

item1a1c

Grŵp Linked-In 'Womenspire'

item1a1c

Enillydd Gwobr - 11-03-10

item1a1c
item1a1c
item1a1c
item2

> datganiad i'r wasg

item2a

Gwobr busnes yn rhoi hwb pellach i fusnes o Went

Mae cyfarwyddwr cwmni HR ac ymgynghori ffyniannus o Went wedi ennill gwobr busnes blaenllaw. Cafodd Janet Hay o 4ward Development, Llantarnam, ei henwi'n 'newydd-ddyfodiad i fusnes gorau'r flwyddyn' yng Ngwobrau 'Welsh Women Mean Business 2010'.

Sefydlwyd Gwobrau 'Welsh Women Mean Business' er mwyn cydnabod ac anrhydeddu merched sy'n rhedeg eu busnesi eu hunain yng Nghymru. Fe'u lansiwyd gan gyn-ennillydd Merch y Flwyddyn Cymru, Sarah Cornelius o'r elusen i blant The Joshua Foundation.

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yng ngwesty Mercure Holland House yng Nghaerdydd ar 11 Mawrth, yn ystod Wythnos Ryngwladol y Merched. Ers ei sefydlu fis Ebrill y llynedd, mae trosiant 4ward Development wedi cynyddu i £1.8m wedi i'r cwmni enill contractau gyda'r gweithgynhyrchwyr laser meddygol, Magstim, ffatri ddur Corus ym Mhort Talbot a chadwyn siopau Claire Price Beauty.

Cyrhaeddodd Janet, sy'n entrepreneur naturiol, a Denise Morris, ei ffrind ers eu plentyndod, y brig yn eu galwedigaethau unigol mewn hyfforddi a HR cyn penderfynnu cyfuno dros 50 mlynedd o brofiad gan ddod â'u busnesau cyfredol ynghyd. Mae'r cwmni'n darparu hyfforddiant o safon uchel trwy rwydwaith o 55 o Hyfforddwyr Datblygu a gwasanaeth ymgynghori HR allanol arbenigol i gwmnïau yn y sector preifat a chyhoeddus.

Meddai Janet: "Mae'n fraint fawr i ni ennill y wobr fawreddog hon. Ers i ni sefydlu 4ward Development mae pethau wedi digwydd yn gyflym iawn, a dim ond yr eisin ar y deisen yw hyn i ni. Mae cychwyn busnes o ddim wedi golygu llawer iawn o waith caled ond mae wedi bod yn werth hynny. Bydd y wobr hon o fudd mawr i ni ddod yn fwy adnabyddus ac mae'n rhoi llawer iawn o hyder i ni ar gyfer y dyfodol."

 

Merched busnes o Lantarnam yn ysbrydoli gyda 'Womenspire' ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched

Helpodd Janet Hay a Denise Morris, cyd-sefydlwyr 4ward Development, i ysbrydoli dros 150 o ferched de Cymru mewn digwyddiad ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched a gynhaliwyd gan Chwarae Teg – Prosiect Cenedl Hyblyg fel rhan o'i ymgyrch 'Womenspire'. Yn y digwyddiad ar ddydd Llun 8fed Mawrth ym McArthur Glen, Penybont, ymunodd y ddwy gyda siaradwyr eraill oedd yn cynnwys yr arwres o'r byd chwaraeon, Tessa Sanderson, rheolwr gyfarwyddwr GoCompare.com, Hayley Parsons, ac Aelod Cynulliad ieuengaf Cymru, Bethan Jenkins, i rannu'r ysbrydoliaeth a'u gyrrodd hwy i lwyddo. 

Daeth merched o gefndiroedd o bob math yngyd yn awyrgylch atmosfferig sinema'r Odeon i glywed straeon tra gwahanol a phersonol y siaradwyr. Ond, roedd themau'n codi pen oedd yn berthnasol iddynt i gyd: pwysigrwydd credu ynoch eich hun, bod yn gryf yn eich argyhoeddiadau a dilyn eich breuddwyd, beth bynnag y bo. Gwahoddwyd Janet a Denise i gymryd rhan yn y digwyddiad wedi i lwyddiant 4ward Development yn Llantarnam, o fewn blwyddyn yn unig ers i'r ddwy gyfaill ers eu plentyndod sefydlu'r cwmni, ddod i sylw'r trefnwyr, Chwarae Teg. Rhannodd y ddwy eu profiadau gyrfaol, y bobl a'r digwyddiadau a'u hysbrydolodd i gyflawni eu potensial, gyda chynulleidfa wadd o ferched o fyd masnach, addysg ac elusenau.

"Ers llawer rhy hir mae merched wedi teimlo rhyw anesmwythyd oherwydd 'y trowsus' yn yr ystafell fwrdd ond mae'n bwysig cofio bod merched yn medru 'gwisgo'r trowsus' hefyd. Ym mhob degawd rydym wedi gweld merched yn dod yn fwy amlwg mewn bywyd cyhoeddus ac yn y sector breifat, ond mae'r bwlch cyson mewn cyflog yn profi bod tipyn o ffordd i fynd er mwyn sicrhau bod merched yn derbyn yr un chwarae teg â dynion.

Cynlluniwyd 'Womenspire' er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r £12.5m sydd yng Nghronfa Gymdeithasol Ewrop a'r prosiect Cenedl Hyblyg a arienir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhyw mewn gwaith a phellhad gyrfaol trwy hyfforddi merched a chefnogi cyflogwyr i weithredu mesurau gweithio hyblyg. 

Meddai Katy Chamberlain, prif weithredwr Chwarae Teg: "Diben Diwrnod Rhyngwladol y Merched yw dathlu cyraeddiadau merched, ac mae Janet, Denise a'n siaradwyr ysbrydoledig eraill wedi rhoi digonedd i aelodau'n cynulleidfa gnoi cil drosto yn ogystal â'r ysbrydoliaeth i ymdrechu i gyrraedd eu hamcanion personol eu hunain.

"Dyw merched ddim cystal am hyrwyddo ei hunain a dyna pam, trwy Cenedl Hyblyg, rydym yn helpu merched i ennyn hunan hyder, sgiliau a hunan barch yn ogystal â rhoi cefnogaeth i gyflogwyr i wneud y mwyaf o'r dalent sydd ar gael iddynt." Caiff y digwyddiad ei gefnogi gan ymgyrch cyfryngau cymdeithasol sy'n defnyddio Twitter, Facebook, Linked-In a chymhwysiad iPhone/iPod touch arloesol sy'n galluogi merched ledled Cymru i rannu'r hyn sy'n eu hysbrydoli nhw.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.agilenation.co.uk.

I wylio'r merched wrth eu gwaith ar y diwrnod, cliciwch yma: www.youtube.com/agilenation

 

Enwebiad i brif wobr yn mynd â busnes o Went ymhellach ymlaen

Mae cyfarwyddwyr cwmni ffyniannus o Went a gafodd ei sefydlu prin naw mis yn ôl wedi ei roi ar restr fer gwobr busnes flaenllaw. Mae Denise Morris a Janet Hay o'r cwmni hyfforddi a HR allanol 4ward Development wedi cyrraedd y rownd derfynol yng nghategori 'busnes newydd' yng ngwobrau 'Welsh Women Mean Business 2010'. Mae'r Gwobrau 'Welsh Women Mean Business' yn rhaglen newydd ar gyfer merched sy'n rhedeg eu busnesau eu hunain yng Nghymru. Fe'u sefydlwyd gan gyn-enillydd 'Merch y Flwyddyn Cymru', Sarah Cornelius o'r elusen i blant, The Joshua Foundation. Cynhelir y seremoni wobrwyo yng ngwesty Mercure Holland House, Caerdydd, ar 11 Mawrth, sef yn ystod Wythnos Ryngwladol y Merched.

Ers ei sefydlu ym mis Ebrill y llynedd, mae 4ward Development, â'i swyddfeydd yn Llantarnam, wedi cynyddu ei drosiant i £1.8m yn dilyn cytundeb gwaith gyda'r cwmni gweithgynhyrchu laser meddygol, Magstim, ffatri ddur Corus ym Mhortalbot a'r gadwyn o siopau Claire Price Beauty. Cyrhaeddodd y pâr entrepreneuraidd y brig yn eu galwedigaethau unigol o HR a hyfforddiant cyn penderfynnu cyfuno dros 50 mlynedd o brofiad gan ddod â'u busnesau ynghyd. Mae'r cwmni'n darparu hyfforddiant o safon uchel trwy rwydwaith o 55 o Hyfforddwyr Datblygu a gwasanaeth ymgynghori HR allanol arbenigol i amrywiaeth o gwmnïau yn y sector preifat' a chyhoeddus. Meddai Denise: "Mae'n fraint fawr cael bod ar restr fer y wobr fawreddog hon. Ers sefydlu 4ward Development prin naw mis yn ôl, mae pethau wedi digwydd yn gyflym iawn a dim ond yr eisin ar y deisen yw hyn i ni. Mae cychwyn busnes o ddim wedi golygu llawer iawn o waith caled ond mae wedi bod yn werth hynny. Mae'r holl fuddsoddi wedi talu'i ffordd wrth i ni wylio'r contractau'n llifo mewn yn ddiweddar, ac mae hyn yn rhoi llawer iawn o hyder i ni ar gyfer y dyfodol."

 

Cwmni hyfforddi a HR o Went yn edrych ymlaen at 2010 disglair

Mae cwmni hyfforddi ac ymgynghori adnoddau dynol allanol wedi sicrhau nifer o gontractau uchel eu parch gyda chwmnïau mawr rhyngwladol dim ond ychydig fisoedd ar ôl cael ei sefydlu. Mae trosiant 4ward Development o Lantarnam, a sefydlwyd ym mis Ebrill, wedi cynyddu i £1.8m wedi iddynt dderbyn contract gyda'r cwmni laser meddygol, Magstim, ffatri ddur Corus ym Mhort Talbot a chadwyn siopau Claire Price Beauty. Creadigaeth yr entrepreneuriaid Janet Hay a Denise Morris, a gyrhaeddodd y brig yn eu meysydd unigol mewn HR a hyfforddi cyn penderfynnu cyfuno dros 50 mlynedd o brofiad gan ddod â'u busnesau ynghyd, yw 4ward Development. Mae'r cwmni'n darparu hyfforddiant o safon uchel trwy rwydwaith o 55 o Hyfforddwyr Datblygu a gwasanaeth ymgynghori HR allanol arbenigol i amrywiaeth o gwmnïau yn y sector preifat a chyhoeddus.

Mae cleientiaid yn elwa o hyfforddiant sydd wedi ei gynllunio i fod yn addas ar gyfer staff o lawr y siop i lefel yr ystafell fwrdd, ac mae'r cwmni'n arbenigo mewn cynllunio rhaglenni effeithiol ar gyfer gweithluoedd mwy niferus neu sy'n gweithredu patrwm shifft cymhleth. Mae adain HR y cwmni'n darparu gwasanaeth cynghori 24 awr y dydd ar faterion sy'n codi ac yn rhoi cymorth gyda pholisïau ar amrywiaeth eang o faterion cyfreithiol. Mae'r cwmni wedi sylwi cynydd yn nifer y cwmnïau sy'n is-gontractio'r gwaith hwn er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth a chadw costau'n isel. Meddai Janet: "Rydym yn falch iawn o gael gweithio gydag amrywiaeth o gleientiaid adnabyddus ac rydym wedi ennill sawl contract sy'n dangos ein bod wedi ein sefydlu ein hunain fel darparwyr hyfforddiant ac adnoddau dynol allanol uchel ein parch. "Mae cychwyn busnes o ddim wedi golygu llawer iawn o waith caled ond mae wedi bod yn werth hynny. Mae'r holl fuddsoddi wedi talu'i ffordd wrth i ni wylio'r contractau'n llifo mewn yn ddiweddar, ac mae hyn yn rhoi llawer iawn o hyder i ni ar gyfer y dyfodol. "Yn ystod y flwyddyn nesaf rydym yn awyddus i ddatblygu'r ddarpariaeth hyfforddi mewn sectorau eraill, ac rydym hefyd eisiau treulio cryn dipyn o amser yn ehangu ein hadran HR." Mae 4ward Development yn cyflogi pum aelod o staff ar y funud, ond yn bwriadu recriwtio mwy yn ystod y flwyddyn newydd er mwyn diwallu gofynion busnes newydd. Mae dau o hyfforddwyr y cwmni'n fargyfreithwyr cymwys, sy'n ddefnyddiol iawn i gleientiaid sydd angen cyngor ar gyfraith cyflogi ryngwladol. Yn ôl Denise, ni wnaeth y dirwasgiad eu hatal rhag cychwyn menter busnes newydd. Meddai: "Os rhywbeth, roedd y dirwasgiad yn sbardun pellach i ni fynd i'r afael â'r fenter, am ei fod yn ffaith bod buddsoddi mewn hyfforddiant, hyd yn oed mewn cyfnodau o galedi ariannol, yn arbed arian i gwmnïau trwy gymell staff a'u hannog i wella cynhyrchiant."

item2b
item2d
item2e
item2f
womenspiredicon57
foldershomepage1a
item3