|
> hyfforddiant > Executive Director
Mae cyflogi a chadw’r staff cywir yn hanfodol, ond mae sicrhau bod eu sgiliau’n aros yn gystadleuol mewn amgylchedd gwaith sy’n newid mor gyflym yn her barhaus. Mae hyfforddi’n costio arian – arian ynddo’i hun yn ogystal ag amser i ffwrdd o’r gwaith dydd-iddydd – ond mae pob sefydliad angen gweithlu hyblyg ac amryddawn er mwyn ffynnu.
O lawr y siop i lefel yr ystafell fwrdd, gall 4ward Development helpu diwallu eich anghenion hyfforddi a datblygu mewn ffordd gost-effeithiol a hyblyg. Rydym o’r farn na ddylai hyfforddiant amharu ar eich gweithgarwch dydd i ddydd, felly rydym yn gweithio gyda chi i ddarparu hyfforddiant sy’n gweddu i’ch anghenion chi ac sy’n gysylltiedig â’ch amcanion busnes.
Rydym yn unigryw oherwydd ein darpariaeth o hyfforddiant 24 awr y dydd, ac rydym yn arbenigo mewn llunio rhaglenni effeithiol ar gyfer gweithluoedd mawrion neu rai sy’n gweithredu patrymau shifft cymhleth. Rydym hefyd yn ystyried holl ystod galluoedd dysgu gan weithio gyda chi ar ddarparu rhaglenni sy’n addas ar gyfer pob gweithiwr.
Mae gennym rwydwaith o dros 50 o hyfforddwyr datblygu profiadol ac mae deunyddiau dysgu arloesol ac uwchraddol ar gael gennym sydd wedi derbyn cymeradwyaeth y Sefydliad Arwain a Rheoli (ILM), yr ydym yn Ganolfan Cydnabyddedig ar eu cyfer.
|
|
 |
> hyfforddiant ychwanegol
Mae’r ddwy dudalen a ganlyn sef, “arweiniad” ac “arbenigol”, yn dangos detholiad o’r cyrsiau yr ydym yn eu cynnal. Gall y rhain barhau cyhyd â hanner diwrnod, neu fel sesiynau byrrach, naill ai fel cyrsiau annibynnol neu fel cyfres i greu rhaglen hyfforddi gynhwysfawr a phenodol.
|
 |
|